Ddyfodol Cymbrogi
Ddyfodol Cymbrogi
Croeso i Ddyfodol Cymbrogi
Rydyn ni ar genhadaeth i helpu'r cenedlaethau nesaf o ddysgwyr ac arweinwyr i adeiladu dyfodol cynaliadwy iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.
Ein Gweledigaeth
Mae pobl ifanc heddiw yn tyfu i fyny yn y cyfnod newid gyflymaf yn hanes dyn.
Byddant yn etifeddu byd ansicr heriol.
Dyluniwyd eu system addysg ar gyfer economi ddiwydiannol a chymdeithas
mae'n debygol na fydd modd ei adnabod mewn dau ddegawd.
Mae angen i oedolion y dyfodol gallu dylunio a siapio byd teg, cynaliadwy a gymdeithasol blaengar.
Er mwyn eu galluogi i wneud hynny, mae angen i ni newid y ffordd maen nhw'n dysgu yn sylfweddol
Mae angen i ni hefyd roi ymdeimlad o les a phwrpas i athrawon sydd wedi'u gor-weithio a heb ddigon o adnoddau.
Rydyn am greu profiad dysgu a llesol sy'n helpu dysgwyr ac athrawon
cysylltu yn gyflym â realiti eu byd
a'u hysbrydoli i ymgymryd â'r heriau yma.
Mae Cymbrogi yn air Celtaidd hynafol am ‘Cymdeithion y Galon.'
Rydym yn edrych ymlaen at groesawu cymdeithion modern i'n helpu i droi ein gweledigaeth yn realiti.
Rhoi Lles Cenedlaethau'r Dyfodol ar Waith
Daw ein hysbrydoliaeth o nodau Byd-eang y Cenhedloedd Unedig, Deddf Lles Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, a chwricwlwm newydd arloesol Cymru
Dechreuwn ein taith trwy ddarparu profiadau sy'n newid bywydau a fydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r meddyliau sydd eu hangen ar athrawon a phobl ifanc i ymgymryd â'u dyfodol yn hyderus.
Mae pob elfen wedi'i chynllunio i alluogi dysgu a lles mewn ffordd gyfunol ac ysbrydoledig.
Ein gweledigaeth hirdymor yw adeiladu canolfan eco-ddylunio, arbrofol a rhyngddisgyblaethol a fydd yn sefydlu i fod yn le bydd yn ysbrydoliaeth i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol wrth iddynt adeiladu dyfodol mwy cynaliadwy iddynt hwy eu hunain, eu teuluoedd a'u cymunedau.
Amdanom Ni
in Cenhadaeth
Dewch yn gefnogwr
Adnoddau
Cyflwyniad
Asedau Brand
Cwestiynau Cyffredin
Cysylltwch â Ni
© Cymbrogi, 2018